Mae prifddinas Tsieina yn paratoi am ail don o’r coronafeirws ar ôl i fwy na 100 o achosion newydd gael eu hadrodd yn y dyddiau diwethaf mewn dinas nad oedd wedi gweld achos lleol ers mwy na mis.

Mae Tsieina, lle’r oedd y firws wedi ymddangos am y tro cyntaf yn hwyr y llynedd, wedi adrodd heddiw (ddydd Llun, Mehefin 15) bod 49 o achosion newydd o’r coronafeirws,  36 ohonyn nhw yn Beijing.

Mae pob un wedi’u holrhain i farchnad sy’n cyflenwi llawer o gig a llysiau’r ddinas.

Mae Beijing wedi cau’r farchnad Xinfadi, gan orchymyn profi ei holl weithwyr ac mae’n gofyn i unrhyw un a deithiodd yno i hunan ynysu am bythefnos.

Mewn ymateb, mae Beijing wedi atal rhai dosbarthiadau rhag ailgychwyn ac wedi gwrthdroi’r camau i lacio rhai o’r mesurau ynysu cymdeithasol.

Mae ardal sy’n agos at y farchnad wedi’i rhoi dan glo a mwy na 76,000 o bobl wedi’u profi.

Mae system wleidyddol gomiwnyddol awdurdodol Tsieina sydd â rheolau cymdeithasol tynn yn gallu olrhain symudiadau’r bobl trwy ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.

Gweddill y byd

Adroddodd Gweinidog Iechyd India naid o fwy na 11,000 o heintiau newydd ledled y wlad am y trydydd diwrnod yn olynol ddydd Llun, Mehefin 15, ac mae Gweinidog Cartref y wlad wedi cynnig 500 o gerbydau trên i’w defnyddio fel wardiau ysbyty coronafeirws dros dro wrth i Delhi Newydd frwydro i reoli cynnydd sydyn mewn achosion.

Yn yr Unol Daleithiau, mae’r achosion mewn bron i hanner y taleithiau yn cynyddu.

Mae’r Unol Daleithiau eisoes wedi cofnodi mwy na 2 filiwn o achosion o’r coronafeirws a mwy na 115,000 o farwolaethau, yn ôl data a luniwyd gan Brifysgol Johns Hopkins.

Yn Ffrainc, bydd bwytai yn rhanbarth Paris yn cael ymuno â’r rhai yng ngweddill y wlad wrth gynnig seddau dan do gan ddechrau ddydd Llun, Mehefin 15.

O Fehefin 22, bydd pob ysgol feithrin, ysgol gynradd ac ysgol uwchradd iau yn agored ac yn orfodol i bob myfyriwr.

Mae Ffrainc yn ailagor ei ffiniau gyda gwledydd Ewropeaidd eraill a bydd yn dechrau caniatáu ymwelwyr o gyfandiroedd eraill ar Orffennaf 1.

Yn Affrica, lle mae’r firws yn parhau i ledaenu, mae Gweinidog Iechyd Ghana, Kwaku Agyemang-Manu wedi ei heintio a Covid-19 ac yn cael triniaeth yn yr ysbyty.

Mae gan Ghana un o’r nifer uchaf o achosion a gadarnhawyd yn Affrica oherwydd profi rheolaidd, gyda mwy na 11,400 o achosion.