Mae Tsieina wedi cofnodi’r nifer fwyaf o achosion newydd o’r coronafeirws mewn diwrnod ers deufis.
Cafodd 57 o achosion newydd eu hadrodd ddoe (dydd Sadwrn, Mehefin 13), a 36 ohonyn nhw yn Beijing.
Dyma’r nifer fwyaf o achosion newydd mewn diwrnod ers canol mis Ebrill, a’r achosion newydd cyntaf ers 50 o ddiwrnodau mewn dinas lle mae 20 miliwn o bobol yn byw.
Daw’r newyddion ar ôl i farchnad leol gael ei chau yn sgil cynnydd sydyn mewn achosion o’r feirws.
Mae’r achosion newydd yn dangos sut y gall y feirws ddychwelyd wrth lacio cyfyngiadau.