Mae disgwyl cannoedd o filoedd o brotestwyr yn Washington heddiw wrth i’r dicter barhau ar ôl i George Floyd gael ei ladd gan yr heddlu yn Minneapolis.

Daw hyn ar ôl i’r arlywydd Donald Trump honni ddoe ei bod ‘yn ddiwrnod gwych i George Floyd’ yn sgil ffigurau am swyddi newydd yn America.

Mae protestiadau wedi cael eu cynnal bob dydd yn y brifddinas dros yr wythnos ddiwethaf, gyda phobl yn cerdded yn ôl a blaen o’r Tŷ Gwyn i’r Capitol a Chofeb Lincoln.

Mae’r fyddin a’r heddlu’n paratoi ar gyfer y brotest fwyaf ers i George Floyd gael ei ladd ar 25 Mai wrth i blismon pwyso ei ben-glin ar ei wddw, gan anwybyddu ei gri na allai anadlu.

Yn y cyfamser, mae trefniadau ar y gweill i gynnal rali yn Washington ar 28 Awst, sef y diwrnod y traddododd Martin Luther King ei araith enwog ‘Mae gen i freuddwyd’ yn 1963.