Dyw Iwerddon heb gofnodi unrhyw farwolaethau coronafeirws newydd am y tro cyntaf ers Mawrth 21.

Fodd bynnag, mae yna 59 yn rhagor o achosion coronafeirws, gan ddod â’r cyfanswm i 24,698.

Hyd yn hyn, mae 1,606 o bobol wedi marw o coronafeirws yn Iwerddon.

Mae’r Taoiseach Leo Varadkar wedi galw’r newyddion yn “ddiwrnod o obaith.”

“Carreg filltir arwyddocaol heddiw. Y diwrnod cyntaf heb gofnodi marwolaeth Covid-19 ers Mawrth 21. Mae hwn yn ddiwrnod o obaith. Fe wnawn ei drechu,” meddai Leo Varadkar ar ei gyfrif Twitter.

Dywed y Prif Swyddog Meddygol Dr Tony Holohan fod nifer y marwolaethau a’r achosion newydd dros yr wythnos ddiwethaf yn “dangos bod y feirws o dan reolaeth yn ein gwlad”.

Y cyfyngiadau

Mae’r wlad nawr yn dechrau ar yr ail wythnos o lacio’r gwarchae gyda nifer o siopau yn ailagor a rhai gweithgareddau chwaraeon yn cael eu caniatáu.

Mae rhai perchnogion bwytai a siopau trin gwallt wedi galw am lacio’r rheol dwy fetr fel eu bod yn cael ail agor yn gyflymach.

Ond mae Dr Tony Holohan wedi rhybuddio yn erbyn newid y rheolau ymbellháu cymdeithasol presennol o ddwy fetr i fetr.

“Gyda’r mesur penodol yna, mae’n wir fod y risg o ddwy fetr yn llai nag un metr,” meddai.

“Ar hyn o bryd, mae dwy fetr yn gyfaddawd rhesymol ond mae popeth yn cael ei adolygu’n gyson ac rwyf yn deall yr anawsterau mae busnesau yn wynebu.”

Mae’r Gweinidog Iechyd Simon Harris wedi annog pobol i “gadw at y cynllun” i helpu i achub mwy o fywydau.

“Rydym yn gwneud cynnydd sylweddol yn ei brwydr yn erbyn Covid19,” meddai ar Twitter.

“Ond dyw hyn ddim yn gyd-ddigwyddiad – rhaid diolch i chi ac i’n harbenigwyr iechyd cyhoeddus, ein staff rheng flaen anhygoel, ein cynllun cenedlaethol a phawb ar dîm Iwerddon.

“Beth am gadw i fynd, cadw at y cynllun, dilyn y cyngor ac achub bywydau.”