Mae Gwlad Groeg wedi ailgylchwyn gwasanaethau fferi i’w hynysoedd, ac mae caffis a thai bwyta hefyd yn agor wrth i’r wlad ddwysáu ymdrechion i achub ei thymor twristiaeth.

Mae cyfradd isel yr achosion Covid-19 yn y wlad wedi annog y llywodraeth i gychwyn y tymor ymwelwyr yn gynt na’r dyddiad a fwriadwyd, sef 15 Mehefin.

O gymharu â gwledydd eraill y Môr Canoldir, mae Gwlad Groeg wedi cael bron i 2,900 o heintiadau a 171 o farwolaethau o’r feirws, tra bod yr Eidal wedi dioddef 33,000 o farwolaethau, Sbaen 29,000 a Thwrci 4,300.

Mae gwasanaethau iechyd i ymladd y coronafeirws yn cael eu hymestyn i’r ynysoedd gydag unedau gofal dwys yn cael eu sefydlu ar bum ynys – Lesbos, Samos, Rhodes, Zakynthos a Corfu – ynghyd â chyfleusterau sy’n bod eisoes ar ynys Creta.

Mae twristiaeth yn rhan hanfodol o economi Gwlad Groeg, gan gyfrannu mwy na 10% o’r GDP yn uniongyrchol.

Yn ôl data’r llywodraeth, teithiodd mwy na 34 miliwn o ymwelwyr i’r wlad y llynedd, gan wario 18.2 biliwn ewro.