Fe fydd dinas Barcelona yn parhau dan warchae yfory (dydd Llun, Mai 25), wrth i rannau helaeth o Sbaen gael cymdeithasu am y tro cyntaf ers i gyfyngiadau’r coronafeirws gael eu cyflwyno.

Mae nifer yr achosion a’r marwolaethau yn Sbaen wedi cyrraedd eu lefel isaf ers wythnosau, ond fe fydd Barcelona a Madrid yn parhau i weithredu’r cyfyngiadau am y tro.

Mae bron i 27,000 o bobol wedi marw yn Sbaen erbyn hyn, gydag oddeutu 268,000 o bobol wedi’u heintio.

Yn ôl awdurdodau Sbaen, mae’r wlad “yng nghyfnod olaf” y feirws ond maen nhw’n rhybuddio bod angen bod yn ofalus yn sgil y sefyllfa yn yr Almaen a De Corea, sydd wedi gweld cynnydd sydyn mewn achosion ar ôl credu bod y sefyllfa wedi gwella.

Llacio’r cyfyngiadau

Yn sgil llacio’r cyfyngiadau, gall oddeutu hanner poblogaeth Sbaen fynd allan i gymdeithasu â hyd at ddeg o bobol, siopa mewn siopau bach a mwynhau pryd o fwyd neu ddiod mewn bwytai a bariau awyr agored.

Gall bwytai hefyd agor eu drysau ar yr amod nad yw cwsmeriaid yn cymysgu mewn mannau cyhoeddus.

Bydd modd cynnal angladdau gyda hyd at 15 o bobol a mynd i eglwysi a mosgiau ar yr amod nad yw ystafelloedd gweddi’n fwy na thraean llawn.

Mae 11 o ranbarthau yn Sbaen a dwy ddinas Sbaenaidd yn Affrica yn symud i gyfnod cynta’r llacio am y tro cyntaf ers i’r rheolau llym gael eu cyflwyno ganol mis Mawrth.

Ond mae Barcelona a Madrid yn parhau dan reolau llym wrth i’r awdurdodau barhau i fonitro’r sefyllfa.