Mae ymgyrchwyr o blaid democratiaeth wedi bod yn ymgynnull mewn canolfan siopa yn Hong Kong i brotestio yn erbyn y penderfyniad i wrthod yr hawl iddyn nhw orymdeithio.

Roedden nhw’n canu ac yn llafarganu sloganau ac yn arddangos arwyddion ar Sul y Mamau.

Roedd protestiadau tebyg yn gyffredin iawn yn y wlad dros gyfnod o rai misoedd y llynedd.

Gyda nifer yr achosion o’r coronafeirws yn y wlad yn gostwng, mae mwy o bobol wedi bod yn ateb y galw i weithredu yn erbyn y llywodraeth, ond ar raddfa dipyn llai na’r cannoedd o filoedd fu’n protestio y llynedd.

Asgwrn y gynnen y llynedd oedd deddfwriaeth fyddai’n gweld troseddwyr yn cael eu hanfon i Tsieina, a bu’n rhaid i’r llywodraeth wneud tro pedol.

Y protestiadau diweddaraf

Ond mae’r protestiadau treisgar yn parhau, ac mae o leiaf un person wedi cael ei arestio heddiw (dydd Sul, Mai 10).

Roedd ffrwgwd ddydd Gwener wrth i wleidyddion ddod ynghyd i drafod pwy sydd â’r hawl i graffu ar ddeddfwriaeth.

Ymhlith y deddfau sy’n cael eu hystyried mae honno fyddai’n ei gwneud hi’n anghyfreithlon i amharchu anthem genedlaethol Tsieina.

Mae Hong Kong dan reolaeth Tsieina ers 1997.