Mae Barack Obama wedi dweud bod ymateb ei olynydd Donald Trump i argyfwng y coronafeirws yn “drychineb hollol ddi-drefn”.

Mae ei sylwadau mewn sgwrs gydag aelodau ei weinyddiaeth Ddemocrataidd wedi dod i’r fei, yn ôl Yahoo News.

Mae mwy na 77,000 o bobol wedi marw yn sgil y feirws yn yr Unol Daleithiau, ac mae mwy nag 1.27m o bobol wedi profi’n bositif.

Fe fu’r cyn-arlywydd yn siarad â 3,000 o aelodau’r Democratiaid wrth iddo gefnogi Joe Biden yn y ras arlywyddol nesaf ar Dachwedd 3.

“Yr hyn rydyn ni’n brwydro yn ei erbyn yw’r tueddiadau tymor hir hyn o fod yn hunanol, yn blwyfol, yn rhanedig ac o weld eraill fel y gelyn – mae hynny wedi dod yn fympwy cryfach ym mywydau’r Americanwyr,” meddai.

“A gyda llaw, rydyn ni’n gweld hynny’n rhyngwladol hefyd. Mae’n rhan o’r rheswm pam fod yr ymateb i’r argyfwng byd-eang yma wedi bod mor anaemig a phytiog.

“Fe fyddai wedi bod yn wael, hyd yn oed gyda’r llywodraeth orau.

“Fe fu’n drychineb hollol ddi-drefn pan fo’r meddylfryd o ‘beth sydd ynddi i fi’ ac ‘i’r diawl â phawb arall’ wedi cael ei weithredu yn ein llywodraeth.”

Donald Trump yn amddiffyn ei hun

Mae Donald Trump wedi amddiffyn ei hun sawl gwaith, gan ddweud bod y cyfyngiadau teithio o Tsieina ac Ewrop, ynghyd ag ymbellháu cymdeithasol, wedi atal rhagor o niwed.

“Dw i’n credu ein bod ni wedi achub miliynau o fywydau,” meddai yr wythnos hon.

Ac yn ôl llefarydd ar ei ran, mae ymateb Donald Trump “wedi bod yn ddigynsail ac wedi achub bywydau Americanwyr”.