Mae Donald Trump yn honni ei fod wedi gweld tystiolaeth bod y pandemig coronafeirws wedi tarddu o labordy clefydau heintus yn Wuhan.
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi awgrymu bod Tsieina wedi rhyddhau’r haint Covid-19 ar y byd yn sgil “camgymeriad” ac wedi damcaniaethu ymhellach bod hynny wedi digwydd yn fwriadol.
Daw ei sylwadau wrth i’w asiantaethau cudd-wybodaeth ddweud eu bod nhw’n parhau i ystyried awgrym Donald Trump bod y pandemig wedi digwydd yn sgil damwain mewn labordy yn Tsieina.
Ond mae asiantaethau cudd-wybodaeth yr Unol Daleithiau wedi wfftio’r awgrymiadau gan ddweud eu bod nhw wedi dod i’r casgliad nad oedd y coronafeirws wedi’i wneud mewn labordy.
Mae llywodraeth Tsieina wedi dweud nad oes unrhyw sail i’r honiadau bod y coronafeirws wedi’i ryddhau o labordy.
Mae Donald Trump wedi rhoi’r bai ar Tsieina am y modd roedd wedi delio gyda’r coronafeirws, gan feirniadu’r wlad am gyfyngu ar deithiau o fewn y wlad i arafu lledaeniad y feirws ond wedi methu atal teithiau rhyngwladol.
“Yn bendant fe allai fod wedi cael ei atal,” meddai Donald Trump yn y Tŷ Gwyn.
Mae’r feirws wedi lladd mwy na 230,000 o bobl ar draws y byd gan gynnwys mwy na 61,000 yn yr Unol Daleithiau, yn ôl y ffigurau diweddaraf.