Mae’r Arlywydd Donald Trump wedi cyhoeddi cynlluniau i lacio rheolau ymbellhau cymdeithasol yn dilyn galwad ffôn gyda llywodraethwyr yr Unol Daleithiau ddoe (Ebrill 16).

Mae canllawiau’r Tŷ Gwyn yn awgrymu llacio’r rheolau yn raddol – ond dim ond mewn llefydd lle mae llawer o brofion wedi cael eu cynnal ac sydd wedi gweld gostyngiad yn nifer yr achosion o Covid-19.

Bwriad y canllawiau newydd yw llacio’r cyfyngiadau mewn ardaloedd lle mae nifer fechan o’r boblogaeth wedi cael eu heintio tra’n cadw’r cyfyngiadau mewn lle mewn llefydd eraill sydd wedi gweld nifer fawr o achosion o’r coronafeirws.

Fe allai’r llefydd hynny sydd wedi gweld gostyngiad mewn achosion, a lle mae llawer o brofion wedi cael eu cynnal, ddechrau’r broses o ail-agor busnesau ac ysgolion.

Fe fyddai’r rhai sy’n wynebu’r risg mwyaf o gael eu heintio yn cael eu cynghori i aros gartref nes bod y camau olaf o’r broses wedi cael eu cwblhau.