Sbaen yw’r drydedd wlad i fod a mwy o achosion o’r coronafeirws na Tsieina, ar ôl yr Unol Daleithiau a’r Eidal.

Gyda phoblogaeth o 47 miliwn o’i gymharu â 1.4 biliwn Tsieina, mae cyfanswm y bobl sydd wedi cael eu heintio yn Sbaen wedi cyrraedd 85,195 erbyn heddiw (ddydd Llun, Mawrth 30), sy’n gynnydd o 8% ar y diwrnod cynt.

Bu farw 812 o bobl yn y wlad ddydd Sul (Mawrth 29), gan godi nifer y bobl sydd wedi marw o’r coronafeirws yn Sbaen i 7,300.

Mae gwasanaethau iechyd Sbaen a’r Eidal wedi bod yn gwegian dan bwysau’r niferoedd o gleifion sydd angen triniaeth ar unwaith.

Mae’r ddwy wlad wedi cofnodi dros hanner y 34,000 o farwolaethau ledled y byd o ganlyniad i’r firws, sydd wedi effeithio bywydau biliynau o bobl a difrodi economïau’r byd.

Yn yr Eidal, sydd â mwy o farwolaethau nag unman arall yn y byd, mae swyddogion wedi mynegi gobaith bod y mesurau llym sydd mewn grym i gadw pobl ar wahân yn cael effaith.

Mae yno 97,689 o achosion yn yr Eidal gyda 10,779 o bobl wedi marw, ond cododd  nifer yr achosion 5.4% yn unig ddydd Sul (Mawrth 29), ac mae nifer y marwolaethau wedi gostwng oddeutu 10% ers dydd Gwener.