Dyw pobol yn Efrog Newydd, New Jersey a Connecticut ddim mewn cwarantîn yn sgil y coronafeirws, ar ôl i’r Arlywydd Donald Trump wneud tro pedol.

Mewn neges ar Twitter, awgrymodd arlywydd yr Unol Daleithiau nad oedd e’n siŵr a oes ganddo fe’r pwerau i gyflwyno cwarantîn, cyn cyhoedi y byddai’n cyflwyno cyngor teithio yn lle hynny.

Mae’r cyngor yn dweud na ddylai trigolion y taleithiau deithio am bythefnos “oni bai bod rhaid”.

Mae llywodraethwyr Fflorida, Maryland, De Carolina a Tecsas yn gorchymyn fod pobol sy’n cyrraedd o Efrog Newydd yn mynd i gwarantîn am bythefnos.

Roedd Andrew Cuomo, llywodraethwr Efrog Newydd, wedi bod yn rhybuddio fod cau ffiniau taleithiau’n gyfystyr â “datgan rhyfel ffederal”.

Mae’r etholiad arlywyddol cychwynnol yn Efrog Newydd wedi’i symud o Ebrill i Fehefin, gyda phryderon wedi’u datgan gan nyrsys nad oes ganddyn nhw ddigon o gyfarpar i drin y coronafeirws.

Ac mae’r heddlu yn Rhode Island yn casglu gwybodaeth gan deithwyr o Efrog Newydd er mwyn eu hysbysu nhw am y cwarantîn.

Y sefyllfa yn yr Unol Daleithiau

Mae mwy na 115,000 achosion honedig o’r feirws yn yr Unol Daleithiau, er bod Donald Trump yn dweud bod y wlad yn arwain y frwydr.

Erbyn ddoe (dydd Sadwrn, Mawrth 28), roedd oddeutu 1,900 o farwolaethau wedi’u cofnodi.

Mae 52,000 o achosion wedi’u cofnodi yn Efrog Newydd, a mwy na 700 o farwolaethau, ond mae achosion ym mhob talaith.

Erbyn neithiwr (nos Sadwrn, Mawrth 28), roedd oddeutu 7,300 o bobol yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty yn Efrog Newydd, gan gynnwys oddeutu 1,800 o bobol mewn unedau gofal dwys.