Mae aelod o luoedd arfog Prydain, ynghyd â dau Americanwr, wedi cael eu lladd mewn ymosodiad taflegryn ar faes milwrol Taji yn Iraq, yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Mewn datganiad a gafodd ei ryddhau bore ’ma (dydd Iau, Mawrth 12), dywed y Weinyddiaeth Amddiffyn bod y milwr yn aelod o Gorfflu Meddygol y Fyddin.

“Mae teulu’r person gwasanaeth wedi cael gwybod ac wedi gofyn am gyfnod o breifatrwydd cyn i fanylion pellach gael eu rhyddhau,” meddai’r datganiad.

“Mae’n meddyliau a’n cydymdeimladau gyda’i deulu a ffrindiau yn yr amser trist hwn.”

Galwodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn Ben Wallace yr ymosodiad yn “weithred lwfr a gwrthredol.”

Tra bod llefarydd dros luoedd arfog yr Unol Daleithiau Colonel Myles Caggins wedi dweud bod 12 yn fwy o bobl wedi cael eu hanafu wedi i 15 roced fechan daro’r maes milwrol ddydd Mercher (Mawrth 11).

Mae maes milwrol Taji yn cael ei ddefnyddio i hyfforddi Lluoedd Clymbleidiol.

Dywed un tyst ei fod wedi clywed sgrechfeydd yn dod o’r maes wrth i seirenau ganu.