Mae llong bleser sydd â chlwstwr o achosion coronavirus wedi cyrraedd porthladd yng Nghaliffornia ar ôl gorfod aros oddi ar arfordir y dalaith am sawl diwrnod.

Mae swyddogion bellach yn paratoi i gludo’r teithwyr i ganolfan filwrol ar gyfer eu rhoi o dan gwarantîn neu eu hanfon yn ôl i’w gwledydd eu hunain.

Mae dros 3,500 o bobol ar fwrdd y Grand Princess, gyda 21 ohonyn nhw wedi’u heintio â coronavirus.

Dyw hi ddim yn glir faint o’r teithwyr fydd yn cael gadael y gwch ond mae’r capten wedi dweud na fydd pawb yn gadael.

Beth nesaf?

Bydd teithwyr Americanaidd yn cael eu cludo mewn awyren neu fws i ganolfannau yn Texas, Califfornia a Georgia i gael eu profi a’u rhoi o dan gwarantin am bythefnos.

Ceisiodd llywodraethwr Califfornia ac Oakland ddarbwyllo pobol na fyddai teithwyr ar y cwch yn dod i gysylltiad â’r cyhoedd cyn cyflawni cwarantîn.

Mae swyddogion hefyd yn ceisio penderfynu lle bydd y cwch a’r criw yn mynd nesaf.

“Bydd y cwch yn troi rownd – ac maen nhw’n asesu lleoedd addas i’r cwch gael mynd – ond nid yma ym Mae San Francisco,” meddai llywodraethwr Califfornia Gavin Newsom.

Mae’r firws wedi heintio 600 o bobl yn yr Unol Daleithiau, ac mae o leiaf 26 wedi marw, y rhan fwyaf ohonyn nhw yn nhalaith Washington.