Mae’r ymgeisydd am enwebiad y Democratiaid yn America, Bernie Sanders, wedi collfarnu ymdrechion gan Rwsia i ymyrryd yn etholiad arlywyddol y wlad.

Roedd y seneddwr o Vermont yn ymateb i honiadau fod Rwsia yn ceisio helpu ei ymgyrch.

“Does gen i ddim diddordeb pwy mae ar Putin ei eisiau i fod yn arlywydd,” meddai. “Mae fy neges i Putin yn glir: cadwa allan o etholiadau America, ac fel arlywydd mi fydda i’n sicrhau dy fod yn gwneud hynny.”

Roedd ei ymateb yn wahanol iawn i ymateb Donald Trump sy’n gyson wedi diystyru casgliadau gwasanaethau cudd America fod Vladimir Putin wedi ymyrryd ar ei ran.

“Yn wahanol i Donald Trump, dw i ddim yn ystyried Vladimir Putin fel ffrind da,” meddai Bernie Sanders.

“Mae’n ddihiryn unbeniaethol sy’n ceisio dinistrio democratiaeth a mygu unrhyw anghytundeb yn Rwsia.

“Mae ar y Rwsiaid eisiau tanseilio democratiaeth America trwy ein rhannu, ac yn wahanol i’r arlywydd presennol, fe fydda i’n sefyll yn gadarn yn erbyn eu hymdrechion.”