Mae dyn oedd wedi llofruddio’i lyschwaer yn Oslo cyn ymosod ar fosg “gyda’r bwriad o ladd cynifer o Fwslimiaid â phosib” wedi’i gyhuddo o lofruddio a throseddau brawychol.

Cafodd Philip Manshaus ei atal y tu fewn i’r mosg ym mis Awst ar ôl saethu chwe gwaith heb daro unrhyw un.

Cafodd un person anafiadau ar ôl neidio ar ei ben a’i atal nes bod yr heddlu’n cyrraedd.

Yn ôl erlynwyr, mae’r dyn 22 oed wedi’i amau o lofruddio Johanne Zhangjia Ihle-Hansen ar ôl iddo ei saethu bedair gwaith – dair gwaith yn ei phen ac unwaith yn y frest.

Digwyddodd yr ymosodiad yn eu cartref yn ardal Baerum y brifddinas.

Yn fuan wedyn, aeth e i’r mosg lle’r oedd tri dyn yn paratoi ar gyfer dathliadau crefyddol Eid al-Adha.

Pan saethodd e nhw, roedd e’n gwisgo helmed â chamera a dilledyn gwrth-fwledi.

Cafodd ei atal gan un o’r dynion y tu fewn i’r mosg cyn dechrau saethu eto.

Mae disgwyl i’r achos llys ddechrau yn Oslo ar Fai 7.

Cefndir

Mae lle i gredu bod Philip Manshaus wedi cael ei ysbrydoli gan ymosodiad tebyg ar fosg yn Seland Newydd fis Mawrth y llynedd.

Yn yr ymosodiad hwnnw, aeth dyn arfog i mewn i ddau fosg a lladd 51 o bobol.

Fis Awst y llynedd, fe wnaeth dyn arfog ladd o leiaf 22 o bobol o dras Hisbaenaidd yn El Paso yn nhalaith Tecsas yn yr Unol Daleithiau.

Yn ôl awdurdodau Norwy, roedd ganddyn nhw rywfaint o wybodaeth am Philip Manshaus flwyddyn cyn yr ymosodiad.

Ond maen nhw’n dweud nad oedd ganddyn nhw ddigon o wybodaeth i weithredu gan nad oedden nhw’n ymwybodol o “gynlluniau pendant” i ymosod.