Mae mwy na 1,000 o bobol wedi marw o ganlyniad i’r coronavirus yn Tsieina erbyn hyn – wrth i 100 o achosion newydd gael eu cofnodi mewn diwrnod am y tro cyntaf.
Mae’r awdurdodau mesur a yw gweithwyr yn dychwelyd i’w gwaith mewn dinasoedd yn gwaethygu’r sefyllfa.
Cafodd 108 o achosion newydd eu cofnodi dros y 24 awr diwethaf, meddai’r Comisiwn Iechyd Cenedlaethol mewn diweddariad dyddiol.
Mae’n golygu bod 1,016 o bobol bellach wedi marw, sy’n fwy na nifer y bobol a gafodd eu heintio â SARS yn 2002-2003.
Mae 42,638 o achosion wedi’u cofnodi yn Tsieina erbyn hyn.
Cyngor i fusnesau
Mae busnesau yn ninas Beijing wedi cael cyngor i gau eu drysau, gwirio a oes gan ymwelwyr symtomau’r firws a chofnodi pwy ydyn nhw.
Maen nhw hefyd yn annog pobol i wisgo mygydau wrth iddyn nhw fynd allan, ac osgoi gweithgareddau grŵp.
Mae achosion bellach wedi cael eu cadarnhau yng ngwledydd Prydain, Hong Kong, Japan, y Ffilipinas a Ffrainc.