Mae Prif Weinidog Sbaen, Pedro Sanchez, wedi cyfarfod arweinydd Catalwnia mewn ymdrech i wella’r berthynas rhwng y llywodraeth ganolog â Catalwnia.

Does dim disgwyl y bydd yna ddatblygiadau sylweddol o’r cyfarfod heddiw (dydd Iau, Chwefror 6) gyda’r ddwy garfan â barn wahanol iawn ar annibyniaeth Catalwnia o weddill Sbaen.

Dywedodd arlywydd rhanbarthol Catalunya, Quim Torra, cyn y cyfarfod y byddai’n mynnu bod Pedro Sanchez yn caniatáu refferendwm cyfreithlon ar annibyniaeth i Catalwnia.

Ond yn ôl Pedro Sanchez, does yno ddim gobaith o gael cynnal refferendwm oherwydd byddai hynny’n mynd yn erbyn cyfansoddiad Sbaen.

Bydd Pedro Sanchez yn ceisio gwyro’r drafodaeth tuag at faterion cymdeithasol, gwariant ar gyfer rhanbarthau Sbaen ac effaith stormydd diweddar ar ddwyrain Sbaen.