Mae llys chwaer Meghan Markle yn gwadu mai hiliaeth sydd wrth wraidd y ffaith i’r cyhoedd droi’n ei herbyn.

Mewn cyfweliad radio yn America, mae Samantha Markle yn mynd ymhellach gan ddweud “nad oes gan hiliaeth ddim oll i’w wneud ag agwedd pobol yn erbyn Tywysog Harry a’i wraig, sydd wedi penderfynu troi cefn ar y bywyd brenhinol a chreu bywyd newydd iddyn nhw’u hunain yn Canada.

Mae Samantha Markle, 55, yn ymosod ar ei hanner chwaer 38 oed yn ystod y cyfweliad gan Kyle Sandilands a Jackie Henderson ar KIIS FM fore heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 28).

Mae’n dweud mai methiant y ddau i allu delio â beirniadaeth gyhoeddus sydd wrth wraidd eu penderfyniad i roi’r gorau iddi.