Mae ymdrechion ar y gweill yn yr Almaen i geisio sicrhau nad yw Iddewon yn gadael y wlad o ganlyniad i wrth-Semitiaeth.

Dywed Heiko Maas, y Gweinidog Tramor, yn Der Spiegel fod rhaid i wleidyddion wneud mwy i fynd i’r afael â’r sefyllfa.

Daw ei sylwadau ar drothwy cofio 75 mlynedd ers i’r Sofietiaid ryddhau Iddewon o wersyll Auschwitz ac ar adeg pan fo gwrth-Semitiaeth ar gynnydd mewn rhannau helaeth o Ewrop.

Mae’n dweud bod gwrth-Semitiaeth yn rhan bob dydd o fywyd Almaenwyr erbyn hyn, a bod hanner Iddewon y wlad wedi ystyried gadael ar ryw adeg yn ystod eu bywydau.

“Rhaid i ni roi mesurau yn eu lle fel nad yw’r fath feddyliau’n troi’n realiti chwerw ac nad yw’n arwain at Iddewon yn gadael yr Almaen yn eu heidiau,” meddai Heiko Maas.

“Mae’r ffaith nad yw pobol Iddewig bellach yn teimlo’n gartrefol yma’n hunllef go iawn – ac yn warth, 75 mlynedd ar ôl rhyddhau’r Iddewon o Auschwitz.”

Y camau posib

Mae Heiko Maas yn dweud nad oes gan ddigon o wledydd Ewropeaidd Gomisiynwyr Gwrth-Semitiaeth, ac mae’n addo brwydro i sicrhau polisi newydd pan mai Almaenwr fydd llywydd yr Undeb Ewropeaidd yn ddiweddarach eleni.

Mae hefyd yn dweud bod rhaid gwella’r diogelwch i Iddewon ledled Ewrop, ac mae’r Almaen eisoes wedi cyfrannu 500,000 Ewro at hynny.