Mae’r awdurdodau wedi achub wyth o ffoaduriaid o’r Sianel yng ngogledd Ffrainc.

Cafodd gwylwyr y glannau eu galw i Stella Plage ger Le Touquet yn gynnar bore heddiw (dydd Sadwrn, Ionawr 25).

Cafwyd hyd i’r ffoaduriaid ar gwch oedd wedi cael problemau â’i injan.

Cawson nhw eu cludo i Boulogne-sur-Mer am driniaeth feddygol cyn cael eu trosglwyddo i ofal yr heddlu.

Mae dwsinau o ffoaduriaid wedi ceisio cyrraedd y lan yr wythnos hon yn groes i gyngor yr awdurdodau.

Cafwyd hyd i 12 o ffoaduriaid o Iran fore ddoe (dydd Gwener, Ionawr 24), ac fe gawson nhw eu dwyn i ofal yr awdurdodau.

A chafodd 11 yn rhagor eu darganfod yn Calais.

Nos Iau (Ionawr 23), cafodd saith o ddynion o Syria eu cludo i’r ddalfa yng ngwledydd Prydain.