Mae Arlywydd Tsieina Xi Jinping wedi dweud ei bod hi’n “hynod o bwysig” cymryd pob cam posib i ddelio â’r firws newydd – coronavirus – sydd wedi effeithio 217 o bobl yn y wlad.

Daw ei sylwadau wedi i nifer y bobl sydd wedi’u heintio gynyddu’n sylweddol.

Mae’r awdurdodau iechyd yn ninas Wuhan, lle ddechreuodd y firws, wedi dweud bod 136 o achosion ychwanegol wedi eu cofnodi yn y dyddiau diwethaf.

Bu farw trydydd person dros y penwythnos ac mae’r firws wedi lledu i Beijing a Shanghai.

Dywed Xi Jinping: “Mae’n rhaid i’r achosion o coronavirus yn Wuhan a llefydd eraill gael eu cymryd o ddifrif.

“Dylai bywydau ac iechyd y bobl fod yn flaenoriaeth i bwyllgorau, llywodraethau a’r holl adrannau priodol.”