Mae prif weinidog yr Wcráin, Oleksiy Honcharuk, wedi cynnig ymddiswyddo wedi iddo gael ei recordio ar dâp yn dweud nad yw arlywydd y wlad yn gwybod dim am yr economi.

Ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd Oleksiy Honcharuk sydd wedi bod yn Brif Weinidog ers mis Awst y llynedd ei fod eisoes wedi cynnig ei ymddiswyddiad i Arlywydd yr Wcrain, Volodymyr Zelenskiy.

“Er mwyn chwalu unrhyw amheuon ynghylch fy mharch a’n hymddiriedaeth tuag at yr arlywydd, rwyf wedi ysgrifennu llythyr ymddiswyddo iddo a’i gyflwyno i’r senedd,” meddai.