Mae’r cyrff 12 o ffoaduriaid wedi cael eu darganfod ym Môr Iona, y rhan o’r Môr Canoldir sydd rhwng de’r Eidal a Gwlad Groeg.

Cafodd 21 o bobl eraill eu hachub ar ôl i’w cwch suddo, yn ôl gwylwyr y glannau Gwlad Groeg, ac mae’r chwilio’n parhau am ragor o oroeswyr.

Digwyddodd y trychineb i’r de-orllewin o ynys Roegaidd Paxos.