Mae Swltan Oman, Qaboos bin Said, wedi marw yn 79 oed ar ôl teyrnasu am bron i 50 mlynedd.

Fe ddaeth i rym yn 1970 ar ôl cipio’r orsedd oddi wrth ei dad, Said bin Taimur, gyda help Prydain.

Mae’r wlad fach ar benrhyn Arabia wedi’i gweddnewid yn llwyr o dan ei deyrnasiad.

Un o’i gamau cyntaf oedd diddymu caethwasiaeth, cyn mynd ati i ddefnyddio incwm olew Oman i adeiladu ffyrdd, ysgolion, ysbytai, meysydd awyr a grid trydan.

Doedd ganddo ddim plant, a’i gefnder, y gweinidog diwylliant Haitham bin Tariq Al Said fydd yn cymryd ei le fel Swltan.