Mae Iran wedi ymosod ar Irac ar ôl i un o’i ffigurau milwrol mwyaf blaenllaw gael ei ladd yr wythnos ddiwethaf.

Cafodd dwy o ganolfannau Irac lle’r oedd milwyr Americanaidd yn aros eu targedu gan daflegrau.

Daw’r ymosodiad wythnos ar ôl i Qassem Soleimani gael ei ladd yn dilyn cyrchoedd awyr gan yr Unol Daleithiau ger Baghdad.

Mae tensiynau ar gynnydd ers i’r Arlywydd Donald Trump dynnu’n ôl o gytundeb niwclear ag Iran.

Un ymosodiad yn unig gafodd ei gyhoeddi gan Iran, ond mae’r Unol Daleithiau yn dweud iddyn nhw gynnal dau.

Roedd Iran wedi bod yn rhybuddio eu bod nhw’n debygol o ddial am yr ymosodiad.

Dydy hi ddim yn glir faint o bobol gafodd eu hanafu.