Mae disgwyl i Harvey Weinstein ymddangos gerbron llys yn Efrog Newydd ddydd Llun (Ionawr 6) wrth i’w gyfreithwyr a barnwr drafod y paratoadau olaf cyn i’w achos, ar gyhuddiadau o dreisio ac ymosod yn rhywiol, ddechrau.

Cafodd yr honiadau yn erbyn y cyfarwyddwr ffilm eu gwneud yn gyhoeddus mwy na dwy flynedd yn ôl, gan arwain at yr ymgyrch #MeToo.

Mae disgwyl i’r rheithgor gael eu dewis yr wythnos hon. Fe allai hynny gymryd peth amser oherwydd y sylw mae’r achos wedi’i gael yn y cyfryngau, gan olygu bod rhai eisoes wedi gwneud penderfyniad ar y mater.

Mae Harvey Weinstein, 67, yn wynebu honiadau ei fod wedi treisio dynes mewn gwesty yn Manhattan yn 2013 ac wedi cyflawni gweithred rywiol ar ddynes arall yn 2006.

Mae wedi pledio’n ddieuog i’r cyhuddiadau gan ddweud bod y menywod wedi cydsynio i’r gweithredoedd rhywiol.

Mae’n wynebu dedfryd o garchar am oes os yw’n ei gael yn euog o’r cyhuddiadau mwyaf difrifol yn ei erbyn.

Er mwyn i hynny ddigwydd mae’n rhaid i’r erlyniad ddangos bod Harvey Weinstein wedi ymddwyn yn dreisgar tuag at fenywod yn rheolaidd.

Mae’r erlyniad eisiau i’r rheithgor glywed tystiolaeth gan rai o’r 75 o fenywod sydd wedi cyhuddo Harvey Weinstein o gamymddygiad rhywiol.

Mae cyfreithiwr Harvey Weinstein, Donna Rotunno, wedi dadlau bod yr achos yn ei erbyn yn wan ac y bydd hi’n croesholi’r rhai sydd wedi ei gyhuddo yn fanwl.