Mae Jeremy Corbyn wedi erfyn ar Lywodraeth Prydain i wrthwynebu ymddygiad “ymosodol” yr Unol Daleithiau.

Daw’r ble wedi i’r cadfridog Iranaidd, Qassem Soleimani, gael ei ladd gan daflegrau ym maes awyr Baghdad, yn Irac.

Yr Unol Daleithiau sy’n gyfrifol am yr ymosodiad yma, sydd wedi ei orchymyn gan yr Arlywydd Donald Trump.

“Mae’r [weithred] yn hynod ddifrifol ac yn dwysau’r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol,” meddai Arweinydd y Blaid Lafur. “A bydd goblygiadau rhyngwladol i hyn.

“Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig erfyn ar yr Unol Daleithiau yn ogystal ag Iran i bwyllo, ac mi ddylai wrthwynebu’r gweithredoedd a’r rhethreg ymosodol sydd yn dod o’r Unol Daleithiau.”

Y berthynas ag Iran

Mae Jeremy Corbyn wedi cael ei dalu yn y gorffennol am ymddangos ar raglen deledu Iranaidd, ac mae wedi cael ei feirniadu sawl gwaith am amddiffyn y wlad.

Y tro yma mae cyd-arweinydd dros dro’r Democratiaid Rhyddfrydol, Syr Ed Davey, wedi atseinio’i sylwadau ac wedi cyhuddo Donald Trump o “ddwysáu tensiynau”.

Dominic Raab yn galw am bwyll

Mae Ysgrifennydd Tramor Prydain, Dominic Raab, eisoes wedi cynnal trafodaethau am y sefyllfa gydag Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Mike Pompeo.

Mewn datganiad, dywedodd Dominic Raab fod y Llywodraeth “wastad wedi cydnabod y bygythiad roedd lluoedd Quds Iran yn ei gynrychioli” dan arweiniad Qassem Soleimani.

Ond aeth ymlaen i ddweud: “Yn dilyn ei farwolaeth, rydym yn galw am bwyll. Dyw rhagor o wrthdaro ddim yn beth da i neb.”

Yn ôl Swyddfa Amddiffyn yr Unol Daleithiau roedd Qassem Soleimani wedi cael ei dargedu oherwydd “ei fod yn paratoi cynlluniau i ymosod ar ddiplomyddion Americanaidd yn yr ardal”.