Mae’r heddlu yn Nhwrci wedi arestio dwsinau o bobol sy’n cael eu hamau o fod a chysylltiad â’r Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Yn ôl asiantaeth newyddion y wlad, mae’r heddlu wedi cymryd camau yn erbyn y grŵp brawychol cyn dathliadau’r Flwyddyn Newydd.

Cafodd o leiaf 33 o bobol o dramor eu harestio yn y brifddinas Ankara mewn cyrch ar y cyd rhwng swyddogion gwrth-frawychiaeth a’r asiantaeth cudd-wybodaeth, yn ôl  Anadolu Agency.

Dywedodd yr asiantaeth newyddion bod y rhai gafodd eu harestio yn Ankara yn dod o Irac, Syria a Moroco. Mae’r heddlu’n chwilio am oddeutu 17 o bobol eraill sy’n cael eu hamau o fod a chysylltiad â IS, meddai’r asiantaeth.

Roedd IS wedi hawlio cyfrifoldeb am ymosodiad mewn clwb nos yn Istanbwl yn ystod dathliadau’r Flwyddyn Newydd yn 2017. Cafodd 39 o bobol eu lladd yn y digwyddiad, y rhan fwyaf ohonyn nhw yn ymwelwyr o dramor.