Mae Awstralia’n parhau i ymladd tanau trychinebus wrth i’r tywydd eithafol boeth a’r argyfwng barhau.
Mae naw o bobl wedi eu lladd bellach, ar ôl marwolaeth un person yn nhalaith De Awstralia heddiw, dydd Sadwrn, lle mae’r tân o fewn 25 milltir i brifddinas y dalaith, Adelaide.
Mae’n dilyn marwolaethau dau ddiffoddwr tân yn nhalaith De Cymru Newydd ddydd Iau.
Mae dros 7 miliwn o erwau o dir wedi cael ei losgi ledled y wlad ac 800 o gartrefi wedi cael eu dinistrio.
Mae disgwyl i’r tymheredd godi i 47 gradd C yng ngorllewin Sydney heddiw.
Er bod tanau yn ddigwyddiad rheolaidd yn Awstralia yn haf hemisffer y de, maen nhw wedi cychwyn yn gynnar ar ôl gaeaf anghyffredin o gynnes a sych eleni.
Mae’r prif weinidog Scott Morrison wedi cael ei gollfarnu am fod ar wyliau yn Hawaii tra bo’i wlad ar dân. Mae disgwyl iddo ddychwelyd i Sydney heddiw, lle bydd yn ymweld â phencadlys y gwasanaeth tân.