Mae Arlywydd yr Unol Daliaethau, Donald Trump yn wynebu uchelgyhuddiad gan Dŷ’r Cynrychiolwyr.

Bydd dadl hanesyddol yn cael ei gynnal am 9 y bore (2 y prynhawn amser Prydain) ar gyhuddiadau ei fod wedi camddefnyddio ei bŵer yn ogystal â rhwystro Cyngres yr Unol Daliaethau.

Yna caiff pleidleisiau eu cynnal, a gall hynny ddod a chyfnod Donald Trump yn y Tŷ Gwyn i ben. 

Donald Trump fyddai dim ond y trydydd Arlywydd yn hanes yr Unol Daliaethau i gael ei uchelgyhuddo.

Anfonodd Donald Trump lythyr candryll i lefarydd y tŷ, Nancy Pelosi ddydd Mawrth (Rhagfyr 17), yn lladd ar y “croesgad ffiaidd” yn ei erbyn.

Ond roedd hefyd yn cydnabod nad oes ganddo’r pŵer i rwystro’r broses.

Dywed yr Arlywydd: “Pan fydd pobl yn edrych yn ôl ar hyn, dwi eisiau iddynt ddeall, a dysgu ohono, fel nad yw hyn byth yn gallu digwydd i unrhyw arlywydd arall”.