Mae ymgyrchwyr amgylcheddol y mudiad Greenpeace wedi datgelu baner ym mhencadlys yr Undeb Ewropeaidd.

Rhybuddia’r faner o “argyfwng hinsawdd” ddim ond ychydig oriau cyn y bydd arweinwyr yn cyfarfod i drafod cynhesu byd eang.

Mi ddaru oddeutu 30 o ymgyrchwyr ddringo’r adeilad ym Mrwsel wrth i’r heddlu ymgynnull islaw. 

Mae gan grŵp ddigon o fwyd a dŵr i allu para dau ddiwrnod ar ben yr adeilad, yn ôl siaradwr dros Greenpeace Mark Beddy.