Mae disgwyl i Harvey Weinstein fynd gerbron llys yn Efrog Newydd heddiw (dydd Gwener, Rhagfyr 6) ar gyfer gwrandawiad yn yr achos o dreisio ac ymosod yn rhywiol.

Mae’r gwrandawiad yn un mae nifer o lysoedd wedi eu trefnu ar draws y dalaith cyn i reolau yn ymwneud a mechnïaeth i ddiffynyddion troseddol gael eu newid.

O dan y newidiadau, a fydd yn dod i rym ar Ionawr 1, fe fydd barnwyr yn cael eu gwahardd rhag ei gwneud yn ofynnol i ddiffynyddion, sydd wedi’u cyhuddo o droseddau di-drais, i wneud cais am fechnïaeth tra eu bod nhw’n aros i achos llys gael ei gynnal.

Mae’n annhebyg y bydd y diwygiadau yma yn effeithio’r cynhyrchydd ffilm Harvey Weinstein sydd wedi’i ryddhau ar fechnïaeth o $1m.