Mae awyren wedi taro cartrefi yn y Congo yn fuan ar ôl gadael y ddaear.
Fe ddigwyddodd yn ninas Goma yn nhalaith Gogledd Kivu yn nwyrain y wlad.
Roedd 17 o bobol ar yr awyren.
Dydy hi ddim yn glir eto a gafodd unrhyw un ei anafu neu ei ladd, ond mae ofnau nad yw’r un ohonyn nhw wedi goroesi.
Roedd yr awyren yn teithio i Beni yng ngogledd talaith Gogledd Kivu.