Mae gan oddeutu un o bob pedwar o drigolion Ewrop safbwyntiau gwrth-Semitaidd, yn ôl arolwg newydd sydd wedi’i gynnal yn Efrog Newydd.

Mae’r arolwg o 14 o wledydd Ewrop yn nodi bod y fath agweddau ar gynnydd yng ngwledydd dwyreiniol, ond yn aros yn gyson yn y gwledydd gorllewinol.

Yng Ngwlad Pwyl mae’r agweddau mwyaf gwrth-Semitaidd, meddai’r arolwg, sy’n nodi bod gan 48% o’r boblogaeth y fath agweddau, o’i gymharu â 37% yn 2015.

Roedd y cynnydd yn fwy syfrdanol eto yn yr Wcráin – o 32% yn 2016 i 46% erbyn hyn.

Doedd fawr o newid yn Hwngari, ond mae’r ganran yn uchel ar 42%, i fyny o 40%.

Mae llywodraethau’r tair gwlad wedi cael eu beirniadu gan grwpiau Iddewig.

Y gorllewin

Mae agweddau’n llai gwrth-Semitaidd yng ngwledydd gorllewin Ewrop, gyda gostyngiad yng ngwledydd Prydain, Sbaen, yr Iseldiroedd, yr Eidal, yr Almaen ac Awstria.

Ond fe gododd canran Denmarc o 8% i 10% a Gwlad Belg o 21% i 24%, gyda Ffrainc (17%) a Sweden (4%) yn aros yn gyson.

Roedd gostyngiad o 18% yn yr Eidal ac 20% yn Awstria.