Mae Israel yn dweud eu bod nhw wedi taro dwsinau o dargedau Iran yn Syria fel ymateb i rocedi’n cael eu hanelu at Golan Heights ddydd Llun (Tachwedd 18).

Bu farw o leiaf 23 o bobol yn yr ymosodiad, gan gynnwys 15 o bobol nad oedden nhw’n dod o Syria. Roedd nifer o bobol o Iran yn eu plith.

Dim ond dau o bobol gyffredin fu farw, yn ôl awdurdodau Syria.

Daw’r ymosodiad yn dilyn protestiadau yn erbyn llywodraethau sy’n cefnogi Tehran yn Libanus ac Irac.

Fe fu protestiadau yn Iran hefyd ynghylch prisiau tanwydd.