Mae eira trwm yn Ffrainc wedi gadael miloedd o gartrefi heb drydan a choeden wedi ei dymchwel gan ladd un person.

Mae’r eira hefyd wedi achosi trafferthion traffig mewn nifer o ardaloedd yn Ffrainc.

Dechreuodd eira trwm ddisgyn ddydd Iau (Hydref 14), gan dorri ar y cyflenwad trydan i 330,000 o dai mewn chwe ardal ar hyd y wlad.

Ac mae awdurdodau yn ardal Isere wedi cyhoeddi fod dyn wedi ei ladd ar ôl i goeden syrthio arno.