Mae adroddiadau bod arweinydd Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’ – yn Syria wedi cael ei ladd gan luoedd Americanaidd.

Fe fu cyrchoedd yn targedu Abu Bakr al Baghdadi yn nhalaith Idlib, ac mae swyddogion yn dweud iddo gael ei ladd mewn ffrwydrad er nad oes cadarnhad o hynny eto.

Ond mae Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn dweud ar Twitter fod “rhywbeth mawr iawn newydd digwydd!”.

Mae disgwyl iddo wneud datganiad amser cinio.

Fe fu Abu Bakr al Baghdadi yn rheoli’r eithafwyr Islamaidd ers pum mlynedd, gan ddenu cannoedd o filoedd o gefnogwyr yn Irac a Syria.

Mae’n un o’r ychydig arweinwyr sydd wedi llwyddo i gadw ei draed yn rhydd tan nawr, ar ôl bod yn allweddol mewn sawl ymosodiad brawychol yn Ewrop a’r Unol Daleithiau.