Mae naw o gyn-arweinwyr Catalwnia wedi cael eu carcharu yn dilyn eu rhan yn ymgyrch annibyniaeth y rhanbarth.

Yn eu plith mae cyn-Ddirprwy Arlywydd Catalwnia, Oriol Junqueras, sydd wedi cael ei ddedfrydu i 13 mlynedd o garchar wedi i’r goruchaf lys yn Sbaen ei gael yn euog o annog gwrthryfel a chamddefnyddio arian cyhoeddus.

Mae’r gweddill wedi cael eu hanfon i’r carchar am gyfnodau rhwng naw a 12 mlynedd, yn ôl gwasanaeth newyddion Catalan News.

Cafodd 12 gwleidydd eu dwyn o flaen eu gwell wedi iddyn nhw geisio sicrhau annibyniaeth i Gatalwnia ddwy flynedd yn ôl yn dilyn refferendwm.

Mae protestio eisoes wedi cychwyn ar strydoedd y rhanbarth yn sgil cyhoeddi’r dedfrydau, ac mae cannoedd o blismyn ychwanegol wedi cael eu galw er mwyn cadw rheolaeth arnyn nhw.