Mae dau berson yn farw ac un ar goll ar ôl i westy ddymchwel yn ninas New Orleans, yn ôl adroddiadau.

Roedd rhan fawr o’r Hard Rock Hotel, sydd wedi ei lleoli yn yr hen Chwarter Ffrengig, wedi dymchwel wrth i waith cynnal a chadw gael ei gynnal arno.

Mae achubwyr wedi bod yn archwilio’r safle am un person sy’n dal i fod ar goll, tra bo pobol wedi gorfod gadael adeiladau cyfagos.

Mae craen 270 troedfedd – sy’n un o ddau graen uwchben yr adeilad – yn beryglus o ansefydlog ar hyn o bryd, yn ôl swyddogion y gwasanaeth tân.

Cafodd yr ymdrech chwilio ei ohirio yn ystod y nos oherwydd pryderon ynghylch diogelwch.

Mewn datganiad, dywedodd y contractiwr adeiladu y bydd ei gynrychiolwyr yn gweithio “trwy gydol y nos” gyda swyddogion brys er mwyn llunio cynllun i sefydlogi’r adeilad.