Mae holl drenau a threnau tanddaearol Hong Kong wedi dod i stop wrth i’r wlad baratoi am ragor o brotestiadau ar ôl gwahardd mygydau sy’n cuddio wynebau protestwyr.

Mae adroddiadau bod llanc 14 oed wedi cael ei saethu gan yr heddlu wrth i’r gwrthdaro rhwng y protestwyr a’r heddlu barhau, a’i fod e mewn cyflwr difrifol.

Mae’r rhwydwaith o drenau a threnau tanddaearol yn gyfrifol am bedair miliwn o deithiau bob dydd, gan gynnwys y prif deithiau i faes awyr Hong Kong.

Mae pobol hefyd yn ciwio ger peiriannau arian ar ôl i nifer o fanciau gau eu drysau.

Mae llywodraeth Hong Kong yn parhau i apelio am heddwch ac mae Carrie Lam, prif weithredwr y wlad yn parhau i fynnu mai gwahardd mygydau yw’r peth iawn i’w wneud.

Mae hi’n gwadu ei bod hi’n dilyn gorchymyn gan lywodraeth Tsieina.