Mae maer Nagasaki wedi beirniadu’r Unol Daleithiau a Rwsia, ymysg gwledydd eraill, wrth ddynodi 74 o flynyddoedd ers i fom atomig gael ei ollwng ar y ddinas.

Yn ôl Tomihisa Taue, mae ganddo bryder bod cefnogaeth i arfau niwclear yn magu momentwm ar draws y byd.

Dywed fod yr Unol Daleithiau a Rwsia bellach yn dychwelyd at ddatblygu arfau niwclear ar ôl i’r cytundeb a arwyddwyd gan y ddwy wlad yn yr 1980au, gael ei ohirio.

“Mae’r sefyllfa bresennol ynglŷn ag arfau niwclear yn hynod o beryglus,” meddai’r maer.

“Mae cyraeddiadau’r ddynolryw a chanlyniadau’r ymdrechion i gael gwared ar arfau niwclear y byd wedi methu un ar ôl y llall, ac mae’r peryg o drychineb niwclear ar gynnydd.”

Annog arweinwyr i ddod i Japan

Mae Tomihisa Taue wedi annog arweinwyr y byd i ymweld â’r dinasoedd yn Japan a gafodd eu taro gan fomiau atomig ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, sef Nagasaki ac Hiroshima.

Hefyd mae wedi galw ar Lywodraeth Japan i wneud mwy i wahardd arfau niwclear, gan gychwyn yng ngogledd-ddwyrain Asia.

“Dw i’n gofyn i Japan annog diarfogi niwclear ar bentir Corea, a dechrau ymdrechion i wneud gogledd-ddwyrain Asia yn ardal ddi-niwclear lle y gall gwledydd cyd-fodoli, nid o dan ‘ymbarél niwclear’, ond o dan ‘ymbarél di-niwclear’,” meddai.

Y ddwy drychineb

Bu farw 70,000 o bobol pan ollyngodd yr Unol Daleithiau ei hail fom ar Nagasaki ar Awst 9, 1945.

Roedd yn dilyn y bom cyntaf a ollyngwyd ar ddinas Hiroshima ar Awst 6, gan ladd 140,000.

Bu farw hyd yn oed fwy yn y blynyddoedd wedyn, o ganlyniad i ganser ac afiechydon eraill a achoswyd gan ymbelydredd.