Mae Donald Trump wedi gwneud datganiad yn y Tŷ Gwyn heddiw (dydd Llun, Awst 5) yn condemnio’r ddau achos o saethu yn nhaleithiau Texas ac Ohio dros y penwythnos, lle bu farw 29 o bobol.

Dywedodd bod y ddau achos yn “ymosodiadau maleisus” sy’n droseddau “yn erbyn holl ddynoliaeth” a bod yn rhaid i undod ddisodli casineb mewn cymdeithas.

Mae wedi galw ar y Democratiaid a’r Gweriniaethwyr i roi eu gwahaniaethu o’r neilltu er mwyn ceisio dod o hyd i atebion i’r trais.

Dywedodd Donald Trump ei fod wedi gofyn i’r Adran Gyfiawnder gyflwyno deddfwriaeth fel bod y rhai sy’n cyflawni troseddau casineb a llofruddiaethau torfol yn wynebu’r gosb eithaf.

Gwiriadau mwy trylwyr”

Yn gynharach heddiw roedd Donald Trump wedi dweud bod angen deddfwriaeth sy’n cyflwyno “gwiriadau mwy trylwyr” i gefndir defnyddwyr gynnau.

Ond dyw e ddim wedi cynnig unrhyw fanylion pellach ynglŷn â’r mater, yn ogystal â mynd yn ôl ar addewidion a wnaeth yn sgil ymosodiadau blaenorol.

Mae’r Democratiaid yn Nhŷ’r Cynrychiolwyr eisoes wedi ceisio cyflwyno deddf sy’n cynnig newid system wiriadau cefndirol y wlad, ond mae wedi methu yn y Senedd, sy’n cael ei rheoli gan y Gweriniaethwyr.

Mae’r Arlywydd ei hun hefyd wedi gwrthod galwadau gan y Democratiaid am reoliadau llymach ar y defnydd o ynnau.

“Angen gwneud mwy”

Ond ar Twitter heddiw (dydd Llun, Awst 5), mae Donald Trump wedi awgrymu y dylai deddfwriaeth ar wiriadau cefndirol mwy cadarn gael ei chyflwyno law yn llaw ag ymdrechion i sicrhau system fewnfudo llymach.

Daw’r sylwadau wrth iddo geisio darbwyllo Americanwyr ei fod yn delio â’r broblem ynglŷn â gynnau, yn sgil beirniadaeth o’i weinyddiaeth dros y penwythnos.

“Rydyn ni wedi gwneud llawer mwy na’r rhan fwyaf o weinyddiaethau,” meddai Donald Trump.

“Rydyn ni wedi gwneud tipyn, i ddweud y gwir. Ond efallai fod angen gwneud mwy.”

Wrth ymateb i feirniadaeth gan y Democratiaid fod angen iddo newid ei ieithwedd, mae Donald Trump wedi rhoi’r bai ar y wasg am drafferthion y wlad.

“Mae Newyddion Ffug wedi cyfrannu yn sylweddol at y dicter a’r llid sydd wedi adeiladu dros gyfnod o flynyddoedd,” meddai.