Cafodd athletwraig ei herwgipio yn Awstria a goroesi trwy frolio planhigion y dihiryn a’i dygodd.

Fe gafodd Nathalie Birli ei tharo yn bwrpasol gan gar, ei chlymu â thâp, a’i chipio i dŷ anghysbell cyn perswadio’r herwgipiwr i’w rhyddhau.

Roedd Nathalie Birli, 27, yn seiclo ar lôn yn Kumberg yn ne Awstria ar ddydd Mawrth (Gorffennaf 23) pan gafodd ei chipio, meddai llefarydd heddlu Graz, Fritz Grundnig.

Cafodd dyn 33 oed, sydd heb gael ei enwi, ei arestio ar ddydd Mercher (Gorffennaf 24).

Yn ôl Nathalie Birli, sydd â bachgen 14 wythnos oed, fe aeth hi’n anymwybodol ar ôl cael ei tharo gan gar… a phan ddeffrodd hi, roedd hi’n noeth ac wedi’i chlymu i gadair freichiau.

Roedd yr herwgipiwr, oedd â chyllell yn ei law, yn “llawn casineb” meddai… ond pan ddechreuodd hi sôn am brydferthwch y planhigion oedd yn ei dŷ, fe ddechreuodd fod yn neis iddi.

Wedyn bu’r dyn, sy’n arddwr brwd , yn adrodd stori ei fywyd trychinebus wrthi.

Bu yn sôn am ei “dad sydd wedi marw, ei fam oedd yn gaeth i alcohol ac am gariadon oedd wedi’i fradychu,” meddai Nathalie Birli.

Cynigodd hi gytundeb iddo – y byddai hi’n dweud mai camgymeriad oedd yr holl beth, ac yna cafodd hi ei rhyddhau.

Mae Nathalie Birli, sy’n cystadlu mewn rasys treiathlon, yn dweud bod y profiad o gael ei herwgipio yn teimlo fel “ffilm wael”.