Mae sancsiynau newydd yr Unol Daleithiau ar arweinydd ac uwch-swyddogion Iran yn golygu “diwedd parhaol” ar y berthynas rhwng y ddwy wlad, yn ôl swyddfa dramor Iran.

Dyna’r hyn sy’n cael ei nodi mewn adroddiad gan yr asiantaeth newyddion, IRNA, sy’n dyfynnu geiriau’r llefarydd, Abbas Mousavi.

Dywed fod y “sancsiwn di-fudd ar arweinyddiaeth Iran a phennaeth diplomyddiaeth y wlad yn golygu diwedd parhaol ar ddiplomyddiaeth gyda’r weinyddiaeth rwystredig yn yr Unol Daleithiau”.

Cafodd y sancsiynau newydd eu gweithredu ddydd Llun (Mehefin 24), gan dargedu yn bennaf yr Ayatollah Ali Khamenei.

Mae’r Unol Daleithiau hefyd wedi cadarnhau eu bod yn targedu Gweinidog Tramor Iran, Mohammad Javad Zarif.

Yn ôl yr Americanwyr, bwriad y sancsiynau yw annog Iran i beidio â datblygu arfau niwclear a chefnogi grwpiau milwrol.

Yr wythnos ddiwethaf, fe gafodd drôn gwerth $100m (£78.4m) ei saethu i lawr gan Iran, gan ddwysau’r tensiynau rhwng y ddwy wlad.