Mae o leiaf 14 o bobol wedi cael eu lladd ar ôl i babell gwympo yn ystod seremoni Hindwaidd fawr yn India.

Mae Narendra Modi, prif weinidog y wlad, wedi mynegi ei bryder am y digwyddiad yn nhalaith Rajasthan.

Mae lle i gredu bod hyd at 50 o bobol wedi cael eu hanafu wrth i’r babell gwympo yn ystod storm ym mhentref Barmer.

Mae ymchwiliad wedi cael ei orchymyn, ac mae’r gwaith o geisio achub pobol ar y gweill.