Mae cwch oedd yn cludo ffoaduriaid i Wlad Groeg wedi suddo ger arfordir Twrci gan ladd o leiaf wyth o bobol, yn ôl yr awdurdodau yn Nhwrci.

Cafodd 31 ffoadur eu hachub ar ôl i’r cwch suddo yn y Môr Egeaidd, ger arfordir Bodrum – sy’n agos i ynys boblogaidd Kos yng Ngwlad Groeg.

Cafodd yr wyth corff eu darganfod yng ngweddillion y cwch mewn dyfnder o 32 metr.

Mae dau o gychod, hofrennydd a thîm o ddeifwyr yn parhau i chwilio am ffoadur arall sy’n dal ar goll ac nid yw’n glir pam yn union wnaeth y cwch suddo.

Mae nifer y bobol sydd yn ceisio gwneud y daith o Wlad Groeg i Dwrci wedi gostwng ers y cyfnod argyfwng yn 2015, ond mae cannoedd yn parhau i wneud y daith bob wythnos.