Mae’r awdurdodau yn Awstralia wedi dweud eu bod nhw wedi dod o hyd i’r cyflenwad mwyaf erioed o’r cyffur methamphetamine oedd wedi ei guddio mewn uned sain stereo o Bangkok.

Roedd 1.596 tunnell o’r cyffur – sy’n cael ei adnabod fel crystal meth neu ice – a 37kg o heroin wedi cael ei ddarganfod ym mhorthladd Melbourne.

Dywedodd heddlu ffiniau Awstralia bod y crystal meth yn werth tua £660 miliwn a’r heroin tua £10 miliwn.

Nid oes unrhyw un wedi cael eu harestio ar hyn o bryd.

Mae Awstralia yn gynyddol yn cael ei thargedu gan werthwyr cyffuriau rhyngwladol oherwydd y pris uchel mae pobl yn fodlon eu talu am gyffuriau anghyfreithlon.