Mae Heddlu Ffederal Awstralia wedi torri mewn i swyddfeydd darlledwr cyhoeddus cenedlaethol y wlad heddiw (dydd Mercher, Mehefin 5) mewn cysylltiad â stori yn ymwneud â rhyddhau dogfennau’r fyddin.

Roedd y stori o 2017 gan Gorfforaeth Darlledu Awstralia yn dweud bod lluoedd byddin Awstralia yn cael eu harchwilio am droseddau rhyfel yn Affganistan.

Dywed y darlledwr fod yr archwiliad – sef yr ail mewn deuddydd gan yr heddlu – yn codi cwestiynau am ryddid y wasg yn y wlad.

“Mae’n anarferol iawn i’r darlledwr cenedlaethol gael ei ysbeilio yn y ffordd hon,” meddai rheolwr gyfarwyddwr ABC, David Anderson, mewn datganiad.

“Mae hwn yn ddatblygiad difrifol ac mae’n codi pryderon mawr ynghylch rhyddid y wasg a chraffu cyhoeddus priodol ar faterion diogelwch ac amddiffyn.”