Mae Andrea Nahles, sy’n aelod iau o glymblaid yr Almaen ac yn arweinydd y Democratiaid Sosialaidd, wedi camu o’r neilltu.

Daw ei chyhoeddiad yn dilyn canlyniadau siomedig i’r blaid yn etholiadau Senedd Ewrop, ac mae ei harweinyddiaeth wedi bod o dan y chwyddwydr ers tro.

Mae’n dweud bod ei phlaid wedi colli hyder yn ei gallu i’w harwain ar ôl 16 mis yn y swydd.

Daeth y blaid yn drydydd yn yr etholiadau yn yr Almaen, y tu ôl i floc Angela Merkel a’r Gwyrddion.

Fe fu rhai llwyddiannau i’r blaid dros y misoedd diwethaf, gan gynnwys gwella deddfwriaeth les ac amodau gwaith, ond mae’r Gwyrddion wedi gweld cefnogaeth iddyn nhw’n cynyddu’n sylweddol yn y cyfnod hwn.

Ac fe gollodd y blaid dir sylweddol yn Bremen, un o’i chadarnleoedd, lle mae disgwyl iddyn nhw wneud rhagor o golledion mewn etholiadau rhanbarthol yn yr hydref.